newydd o Rydd Fasnachwyr. Prydain, diolch i'w goruchafiaeth ddiwydiannol, ydoedd y ffatri a wisgai'r byd; a chyhyd ag y parhai'r monopôl hwnnw ar farchnad y byd, nid oedd bryd y Sais ar lywodraethu; ni fynnai ond masnachu. Yn y drefn hon ar bethau nid oedd lle i ehangu'r ymerodraeth ac ennill tiroedd; ac er na bu i Cobden, Gladstone, ac arweinwyr eraill "Ysgol Manceinion" weithio dros ddiddymu'r ymerodraeth, er hynny disgwylient iddi ddadgymalu, ac yr oeddynt yn barod i helpu'r cyfnewidiad trwy estyn hunan-lywodraeth. O tua 1870 ymlaen datblygodd y polisi trefedigaethol mewn cyfeiriad i'r gwrthwyneb yn hollol, ac yn chwarter olaf y XIX ganrif gwelwyd imperialaeth Prydain yn mynd o nerth i nerth. Yn y gwaelod, y mae'n debyg fod cymaint o achosion economaidd ag o unrhyw achosion eraill wrth wraidd y mudiad hwn i ennill gafael ar fwy o dir a daear. Canlyniad ydoedd i'r cynnydd enfawr a fu yng ngallu cynhyrchiol diwydiannau Ewrop ac i waith Prydain yn methu diogelu ei monopôl ar fasnach y byd pan ddechreuodd Pwerau eraill gystadlu yn ei herbyn. A phan ymroddes Ffrainc, yr Almaen, a gwledydd eraill, i'r gwaith o ennill ymerodraeth, darbwyllwyd pobl Prydain mai rheolaeth boliticaidd arnynt oedd yr unig beth a allai ddiogelu'n ddigon effeithiol y marchnadoedd newydd, ac yn arbennig, y meysydd newydd i fuddsoddi arian yr oedd arnynt yn awr eu heisiau. Ond ni ddylid gadael i'r agwedd economaidd hon, pa mor bwysig bynnag fo, fwrw i'r cysgod yr egnïon eraill yn y don hon o imperialaeth a lifodd dros Brydain. O'r safbwynt seicolegol, y mae'n debyg fod poblogrwydd damcaniaethau am ddatblygiad cymdeithas, am "yr ymdrech am fodolaeth" a "goroesiad y cryfaf" yn holl-bwysig. Yr oedd hyn nid yn
Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/8
Gwedd