Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r India a'r Dwyrain. Ac felly, yn hollol annisgwyl, daeth gwerth ac ystyr newydd i'r ffaith ein bod yn berchen ar Gibraltar a Malta, lleoedd a gipiwyd yn 1704 ac 1802. Yn ychwanegol at hyn, yn 1875, daeth Prydain Fawr i fod y prif gyfranddeiliad yng Nghwmni Camlas Sŵes, ac yna, trwy ennill Cyprus, dair blynedd yn ddiweddarach, seliodd ei meistrolaeth a'i goruchafiaeth yn rhannau dwyreiniol Môr y Canoldir. Yr oedd Camlas Sŵes wedi datblygu i fod yr hyn a ddisgrifiodd Bismarck fel "madruddyn cefn yr Ymerodraeth Brydeinig."

Tua'r amser hwn—hwyrach y gellir nodi'r flwyddyn 1872, y flwyddyn y traddododd Disraeli ei araith yn y Crystal Palace, fel y trobwynt—y dechreuodd pobl Prydain ymysgwyd o'r teimlad dihidio hwnnw tuag at yr ymerodraeth a fuasai'n nodweddiadol o hanner cyntaf teyrnasiad Victoria. Yn y cyfamser yr oedd yr ymerodraeth wedi parhau i dyfu: er nad oedd Penang (1786) a Singapore (1819) yn ddim ar y pryd ond gorsafoedd masnachu digon di-nod, eto i gyd daethant o dipyn i beth yn ganolbwynt y rhwydwaith diddorol a chymhleth hwnnw o diriogaethau a adwaenir heddiw fel Malaya Brydeinig. Yn ychwanegol at hyn, fe roes Hong Kong (1841) inni afael a dylanwad ar helyntion. Seina. Ar waethaf y datblygiadau hyn, fodd bynnag, erbyn canol y XIX ganrif daethai llawer o bobl i gredu fod y Chwyldro Americanaidd wedi profi y byddai'r Trefedigaethau, os tyfent mewn cyfoeth a gallu, yn anochel, wrth wneuthur hynny, yn ymdorri'n rhydd oddi wrth y Famwlad. Boed iddynt, felly, meddid, fynd eu ffyrdd eu hunain. mewn heddwch. Hefyd, bob amser yn y gorffennol yr oedd. y polisi trefedigaethol wedi golygu cyfyngiadau masnachol, ac edrychid ar y rheini yn anfoddog iawn gan y genhedlaeth