Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddynt, yn arbennig siwgr. O Loegr y deuai'r cyfalaf ddefnyddid i ehangu'r planhigfeydd lle y tyfid y siwgr; ac i gyflenwi'r diffyg gweithwyr ar yr ynysoedd eu hunain dygid llongeidiau o gaethweision drosodd o Affrica. Caethwasiaeth, ac yn fwy fyth y dychrynfeydd a oedd yn gysylltiedig â Masnach y Caethion, oedd y pris a dalwyd yng ngwaed a chyrff dynion am ddatblygiad economaidd cynnar planhigfeydd ein trefedigaethau yn India'r Gorllewin ac yng Ngogledd America.

Yn y cyfamser yr oedd menter ac anturiaeth ym myd masnach yn arloesi llwybrau trafnidiaeth newydd mewn mannau eraill, ac yn ystod y can mlynedd nesaf, fwy neu lai, yr oedd Cwmni Seisnig India'r Dwyrain, yr hwn a sefydlwyd yn 1600, wedi codi yn yr India gyfres o ffatrioedd masnach a chysylltiad agos rhyngddynt a'i gilydd. Drwy gydol y XVIII ganrif tyfodd y cysylltiadau masnachol rhwng y wlad hon a'r Dwyrain yn fwyfwy pwysig o hyd ac o hyd. Yr oedd y rhain, yn eu tro, yn gwarantu diogelwch a manteision i longau Prydain dros fwy na deng mil o filltiroedd ar y môr. Masnach, nid ceisio ennill tiroedd, a symbylodd yr holl weithgarwch hwn, ond megis yn yr India, felly hefyd mewn mannau eraill, yr oedd y naill beth yn arwain i'r llall yn anochel. A dyna hanes Ascension, St. Helena, Penrhyn Gobaith Da, Mauritius, y Seychelles a Ceylon (cafwyd y pedwar olaf ar draul Ffrainc a'r Iseldiroedd fel canlyniad i'r rhyfeloedd yn erbyn Napoleon)—fe'u henillwyd yn bennaf er mwyn sicrhau a diogelu yr unig lwybr posibl o Brydain i'r India yn nyddiau'r llong hwyliau. Ar ddyfodiad y llong ager collasant lawer o'u pwysigrwydd yn hyn o beth; a phan agorwyd Camlas Sŵes yn 1869 dyna newid yr holl sefyllfa'n llwyr, trwy wneuthur Môr y Canoldir y briffordd bwysicaf