Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y TREFEDIGAETHAU

I. DATBLYGIAD YR YMERODRAETH DREFEDIGAETHOL

A PHEIDIO â chyfrif o gwbl y Dominiynau hunan-lywodraethol a gwlad fawr yr India, sydd ynddi ei hun yn gyfandir, y mae'r ymerodraeth drefedigaethol yn cynnwys yn agos i hanner cant o diriogacthau gwahanol a unir â'i gilydd yn eu ffyddlondeb cyffredinol i Goron Prydain, os nad mewn dim byd arall. O fewn y gyfundrefn boliticaidd enfawr hon y mae tua thrigain miliwn o bobl—a'r rheini o liwiau, o ieithoedd, ac o grefyddau lawer—yn llwyddo, mewn gwirionedd, i fyw eu bywyd beunyddiol mewn unoliaeth gyffredinol sydd, er hynny, yn gallu hepgor unffurfiaeth. Y mae llawer ohonynt, a siarad yn ffigurol, yn gymdeithion rhyfedd yn yr un gwely, ac y mae'r stori am y modd y daethant ynghyd—am y modd yr adeiladwyd yr ymerodraeth drefedigaethol—yn stori hanner-brwnt a hanner-rhamantus, lle y cymysgir bwriad pendant a hap a damwain mewn ffordd. ryfedd iawn.

Erbyn diwedd yr XVI ganrif yr oedd y wlad hon wedi dechrau ymgodi'n allu mawr ar y môr. Er mwyn distrywio monopôl yr Ysbaen yn ei masnach â'r Byd Newydd, defnyddiodd llongau Prydain rai o ynysoedd India'r Gorllewin fel canolfannau i fasnachu mewn nwyddau gwaharddedig â threfedigaethau'r Ysbaen. Cyn pen llawer flynyddoedd dacthpwyd i brisio'r ynysoedd am eu gwerth ynddynt eu hunain, oherwydd y nwyddau a gynhyrchid