Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pha mor anaeddfed bynnag fo, yn llai o ddyn am fod ei groen yn ddu a'i ymddygiad yn aml iawn, efallai, yn debyg i eiddo plentyn neilltuol o ddrygionus.

Hwyrach fod y dull hwn o ymosod ar y pwnc yn un sy'n pledio hunan-gyfiawnder a bodlonrwydd cysetlyd ynom ni ein hunain. A ydyw'r hyn a wnaethom ni mor lân a phur ag y gallwn fforddio taflu cerrig at eraill? Dyna Affrica Drofannol Brydeinig, er enghraifft, lle y mae tair ar ddeg o diriogaethau trefedigaethol gwahanol. Byddwn i yn barod i ddweud yn bendant am saith allan o'r un ar ddeg yr wyf i fy hun wedi ymweled â hwynt, mai buddiannau'r trigolion brodorol ydoedd prif egwyddor ein gweinyddiaeth. Yn y pedair arall yr oedd dwy duedd yn y weinyddiaeth: sicrhau lles a llwydd y brodorion, ar y naill law, a diogelu buddiannau economaidd Ewropeaidd ar y llaw arall; ond yr oedd hefyd gais di-ildio i gyrraedd cyfaddawd ymarferol rhyngddynt. Wrth gwrs, y mae amcanion yn gymysg, ac ni all gosodiadau cyffredinol am faes mor eang lai na bod nid yn unig yn anodd ond hefyd yn beryglus. Ond y mae un peth yn glir. Ar wahân i ychydig o eithriadau, nid yw. trefedigaethau a feddiennir yn ffynonellau cyfoeth mawr: heb eithriad o gwbl, y mae meddiannu trefedigaethau yn golygu dyletswyddau a rhwymedigaethau moesol na ellir mo'u hosgoi—ac yn anad neb gan weriniaeth wareiddiedig.

IFOR L. EVANS.