Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

OHERWYDD prysurdeb gyda gwaith arall ni ellais ysgrifennu'r pamffled hwn heb gymorth, ac y mae fy nyled yn fawr i'r Dr. E. Jones Parry, Darlithydd yn Hanes y Trefedigaethau yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, am wneuthur y gwaith bron i gyd, ac i Mr. Thomas Jones, M.A., am edrych ar ôl ein Cymraeg. Yr hyn y ceisiasom ei wneuthur, yn hynny o ofod a oedd gennym, yw dangos pa mor gymhleth yw problem y trefedigaethau, a nodi rhai o'r prif ystyriaethau economaidd a chymdeithasol sydd yn gorwedd dan ei hagweddau politicaidd.

Y mae Prydain Fawr a Ffrainc yn eu polisi trefedigaethol i raddau helaeth wedi tyfu allan o'r cyflwr cynnar hwnnw pan na feddylid am y trefedigaethau ond fel tiroedd i arglwyddiaethu arnynt a gorelwa ynddynt, ac y maent fwy-fwy yn coleddu'r syniad mai math o ymddiriedolwyr ydynt hwy dros bobloedd mwy cyntefig. Y mae'r Almaen Naziaidd a'r Eidal Ffasgaidd, ar y llaw arall, yn y cyflwr cynnar hwnnw lle y dyheir am feddiannu trefedigaethau am resymau parch a bri ac, fel y cyfeddyf eu harweinwyr yn ddigon agored, fel y gallo pobloedd "uwchraddol" ffynnu'n economaidd ar draul gwasgu a gormesu pobloedd "israddol." Gwelir felly fod problem y trefedigaethau yn fwy na brwydr rhwng "y rhai y mae ganddynt" a'r rhai nad oes ganddynt": ynghlwm wrthi y mae problem foesol sylfaenol ynglŷn â gwerthoedd dynol. Y safbwynt a gymerwn ni yn y pamffled hwn yw nad yw'r dyn du, pa mor gyntefig a