Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odraeth Prydain ymgodymu â hi, pan fo rhaid penderfynu p'run o ddau gymal y Mandad a ddylai gael y lle blaenaf. Y mae'r Llywodraeth wedi cydnabod, fel rheol, pan ddigwyddo gwrthdaro rhwng buddiannau'r brodorion ac eiddo'r Ewropeaid sydd wedi ymsefydlu yn eu tiriogaethau gyda'r pwrpas o ddatblygu eu hadnoddau, mai buddiannau'r brodorion sydd i'w hystyried gyntaf, ar yr amod nad amherir ar hawliau presennol yr ymsefydlwyr. Yn Affrica Orllewinol, Tanganyika, ac i raddau yn Uganda, y mae datblygiad llywodraeth anuniongyrchol wedi symud rhywfaint i gyfeiriad cymodi'r buddiannau hyn sydd mor groes i'w gilydd ym materion llywodraeth. Bu Kenya, ar y llaw arall, ar ôl yn hyn o beth, ac yno fe ychwanegwyd at yr anawsterau trwy gadw darn helaeth o'r ucheldiroedd yn rhanbarth neilltuedig i Ewropeaid yn unig ymsefydlu ynddi, a chan bresenoldeb cryn nifer o Indiaid. Yn Kenya, yn y rhan helaethaf o Ddeheudir Affrica, ac yn wir yn yr holl drefedigaethau sydd â'u hinsawdd yn addas i ymfudwyr o Ewrop, y broblem fwyaf dyrys y gelwir ar y weinyddiaeth ddelio â hi, ydyw ceisio cymodi buddiannau holl rannau'r boblogaeth.

Er hynny, nid yw'r gwahaniaethau ym materion llywodraeth ond mynegiant politicaidd o wrthdaro dyfnach mewn buddiannau economaidd rhwng y brodorion, ar y naill law, a'r ymfudwyr o Ewrop ar y llaw arall. Y mae'r Llywodraeth yn ymboeni fwyfwy i sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen sydd i annog y brodorion i gynhyrchu bwyd a nwyddau ar cu cyfer hwy eu hunain yn y man a'r lle, a gwaith yr Ewropeaid yn galw am frodorion i weithio am hur, ac yn bennaf i gynhyrchu ar gyfer allforio. Y mae'r broblem yn un anodd iawn, ac y mae'n boenus o amlwg y bydd yn rhaid gwneud llawer o waith cyn byth y gellir ei datrys yn deg a