chyfiawn. I ba raddau y gellir dweud ein bod wedi gwella datblygu yn ein dull o arfer y Mandad Dwbl? Cyn cynnig ateb y cwestiwn hwn y mae'n rhaid rhoi gair o rybudd. Yn y gorffennol bu Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar yr hen egwyddor na ddylai trefedigaeth gael ond y gwasan- aethau hynny y gall fforddio eu cynnal ar ei chyllid ei hunan --cyllid sy'n deillio o drethi, ac yn arbennig o dollau. "Y mae'r egwyddor hon," meddai Mr. Malcolm Macdonald, Ysgrifennydd y Llywodraeth dros y Trefedigaethau, yn Chwefror 1940, "yn un y mae'n rhaid ei diwygio, ac y mae'r Llywodraeth yn bwriadu rhyddhau, mewn achosion teilwng a phriodol, o'r ffynonellau newydd y mae eu bryd ar eu trefnu, arian ar gyfer cynnal gwaith neu wasanaethau pwysig dros gyfnod sylweddol o flynyddoedd." Y swm y bwriada'r Llywodraeth ei ddarparu yw un yn cyrraedd, yn y man pellaf, £5,000,000 y flwyddyn am ddeng mlynedd. Gellir cael y cymorth hwn, nid yn unig i gynlluniau sy'n golygu gwario cyfalaf angenrheidiol i ddatblygu'r trefedigaethau yn yr ystyr ehangaf, ond hefyd i helpu i glirio costau o bryd i'w gilydd yn y trefedigaethau ar wasanaethau arbennig, megis amaethyddiaeth, addysg, iechyd a thai. Ac felly fe sylwn gyntaf ar yr hyn a wnaethpwyd eisoes i sicrhau trefniadau iechyd a gwasanaeth addysg i'r pobloedd brodorol o dan ein llywodraeth.
(a) Addysg
Y rhai cyntaf i sefydlu canolfannau lle y rhoddid at was- anaeth pobloedd Affrica y manteision a dducpwyd yno gan y Gorllewinwyr oedd y Cenhadon. Hwynt-hwy a sefydlodd yr ysgolion cyntaf, a sgrifennodd y llyfrau cyntaf ac a ddysgodd y bobl i'w darllen. Yn wir, nid tan yn gymharol