Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiweddar—gan mwyaf yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf—yr ymgymerodd y Llywodraeth â phroblem addysg yno. Erbyn hyn ffurfiwyd Adrannau Addysg ymhob trefedigaeth, a neilltuwyd cyfran arbennig o gyllid y drefedigaeth i ddatblygu'r trefniadau addysg. Yn 1924 penodwyd Pwyllgor Ymgynghorol, a enwyd yn ddiweddarach yn Bwyllgor Ymgynhorol ar Addysg yn y Trefedigaethau, gan Ysgrifennydd. y Llywodraeth dros y Trefedigaethau, ac y mae'r corff hwn wedi gwneud gwaith gwerthfawr drwy feddwl am egwyddorion cyffredinol y gall Llywodraethau'r gwahanol drefedigaethau eu mabwysiadu, ar ôl ystumio a newid tipyn arnynt yn ôl amgylchiadau arbennig pob trefedigaeth. Barn ddiweddaraf y Pwyllgor yw y dylai Llywodraethau'r trefedigaethau barhau i weithio drwy'r Genhadaeth, gan bwysleisio ar yr un pryd yr angen am gadw gwyliadwriaeth a rheolaeth dynnach arni, ac am welliant mawr yn yr addysg elfennol. Canys fe ddylid cofio fod gwaith y cenadaethau hyn, er cymaint yr ymroddiad sydd y tu ol iddo, yn amrywio'n fawr iawn yn ei werth a'i ansawdd. Creir anawsterau hefyd gan gystadleuaeth enwadol, gan y gwahanol safonau o dâl y gofynnir amdanynt gan genhadon Protestannaidd neu Gatholig, gan ddiffyg profiad llawer o'r athrawon, a chan y cyfartaledd uchel o bobl estron a gyflogir gan rai cymdeithasfeydd cenhadol mewn taleithiau o dan lywodraeth Prydain. Yn ychwanegol at hyn i gyd, ychydig o obaith sydd gan y Genhadaeth i gael rhagor o arian at y gwaith, ac y mae'n rhaid i'r datblygiadau newydd bron i gyd ddibynnu ar adnoddau'r Llywodraeth.

Yn y gorffennol bu'r cyfartaledd o'r cyllid a benodid i addysg yn annigonol, ac y mae yn awr angen mawr am ysgolion canol newydd tan nawdd y llywodraeth, addysg