bellach i fenywod a merched, a datblygu addysg i'r bobl mewn oed. Y mae addysg y brodorion o hyd yn ei gychwyn cyntaf: nid yw cyfartaledd y plant a gaiff unrhyw fath o ysgol yn uwch nag 20 y 100 yn unrhyw un o'n trefedigaethau yn Affrica Drofannol. Ymhlith yr Affricanwyr y mae'n rhaid creu barn gyhoeddus o blaid addysg, ac ymhlith yr Ewropeaid y mae'n rhaid dileu rhagfarn yn erbyn rhoi addysg i'r Affricanwyr. Yn aml iawn, y mae rhagfarn o'r fath yn tarddu o'r ofn y bydd datblygiad yr Affricanwr yn peryglu safle'r dyn gwyn ac yn codi ei gostau cynhyrchu. Ond ni ddylid penderfynu a rheoli addysg deugain miliwn o Affricanwyr yn bennaf oll gan angen cyflogwyr Ewropeaidd am weithwyr o'u plith. Yr unig faen prawf cywir yw angen a phosibiliadau'r holl boblogaeth.
(b) Iechyd
Bydd datblygiad addysg, i raddau, yn penderfynu pa mor llwyddiannus fydd yr ymgais i wella'r gwasanaethau iechyd ac ychwanegu atynt. Rheolir bywyd y brodorion gan ofnau ac ofergoelion a gwaharddiadau, ac y mae bron yn amhosibl ennill eu hymddiriedaeth a'u cydweithrediad mewn trefniadau a chynlluniau iechyd oni chymerir gofal mawr i beidio â thramgwyddo yn erbyn eu credöau rhyfedd a'u harferion lleol. Fel y datblyga safon gyffredinol addysg, gwella'r amgylchiadau; ond y mae'r gwaith sydd eto i'w gyflawni yn aruthrol. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Iechyd yn Kenya, wrth ysgrifennu yn 1930, fod bron pob brodor o Affricanwr yn Kenya yn cael ei boeni gan ryw fath o lyngeryn cylla; yr oedd cyfartaledd uchel yn dioddef rywbryd neu'i gilydd gan falaria; dros ranbarthau helaeth yr oedd plâu a chlefydon y croen yn bethau cyffredin; mewn