Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arbennig i'r cnydau hynny a fyddai sicraf o gael marchnad. allanol; ac felly, erbyn 1928, brodorion y Gold Coast ocdd y prif gynhyrchwyr coco yn y byd, ac yr oedd mwy a mwy o gnau'r ddaear, o olew'r balmwydden, ac o goco, yn dal i lifo o Nigeria i farchnadoedd Ewrop ac America. Prif ganlyniad yr egnion hyn fu gwneuthur niferoedd mawr o frodorion Affrica Drofannol yn ddibynnol, mewn mesur sy'n amrywio tipyn ond sydd ar gynnydd, ar y codi a'r gostwng dirgel ym mhrisiau marchnad y byd. I raddau helaeth iawn y mae eu hymneilltuacth economaidd wedi ei diddymu. Yn ystod y blynyddoedd y bu'r byd yn dioddef gan y dirwasgiad, o 1929 i 1932, daeth llawer ohonynt sylweddoli hynny trwy gryn dipyn o ddioddef, achos darganfuant eu bod yn derbyn llai a llai am y cnydau y telid hwy amdanynt ag arian, cnydau megis coco, coffi, cotwm a chynnyrch y palmwydd. Yr oedd y sefyllfa, wrth gwrs, yn arbennig o ddifrifol yn y rhanbarthau hynny lle yr oedd y trigolion wedi ymroi â'u holl galon i gynhyrchu cnydau i'w hallforio: yn y blynyddoedd pan oedd llwyddiant masnachol ar ei ben-llanw, cawsant elw da: ond ym mlynyddoedd y trai daeth tro sydyn ar fyd. Er 1935, megis mewn mannau eraill, bu gwelliant cyson; ond pan fydd y rhyfel presennol ar ben, dichon y daw blynyddoedd digon dielw drachefn. Braint a dyletswydd y wlad hon, fel ymddiriedolwr dros y brodorion, yw gwneud popeth yn ei gallu i'w hamddiffyn a'u gwarchod rhag effeithiau gwaethaf cwymp alaethus arall ym mhris y cynhyrchion crai ar farchnad y byd.

Yn ffodus, y mae arwyddion nad aeth gwers y gorffennol yn ofer gan ein gweinyddwyr. Yn wir, ers rhai blynyddoedd y mae Adran Amaethyddol Nigeria, er enghraifft, wedi