Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylweddoli'r peryglon sydd yn codi os dibynnir gormod ar farchnadoedd y byd allanol yn unig, ac wedi bod yn gwneuthur arbrofion gyda chynlluniau i wella'r cnydau bwyd brodorol. Pa rai, ynteu, yw'r anawsterau pennaf? Yn lle cyntaf, y mae'n rhaid inni sylweddoli fod amaethyddiaeth Affrica, fel rheol, yn eithafol o gyntefig, ac mewn llawer ardal y mae wedi ei seilio ar driniaeth symudol y tir. Lle y bo digonedd o dir, bydd mintai fechan o frodorion yn ymsefydlu mewn un man am dair neu bum mlynedd, yn cymryd y cwbl a allant o'r tir heb roi dim yn ôl ynddo, ac yna yn symud oddi yno i fan arall. Ac ynglŷn â chodi anifeiliaid, y pwyntiau pwysig yw'r rhain. Yn gyntaf, dros rannau helaeth o Affrica, y mae'r gwybedyn tsetse, yr hwn sy'n cludo'r hunglwyf, yn ei gwneud hi'n amhosibl codi gwartheg. Yn ail, mewn rhanbarthau cyfain, yn arbennig yn Affrica Ddeheuol ac Affrica Ddwyreiniol, perygl a rhwystr sydd ar gynnydd yw bod y pridd yn cael ei ysu a'i dreulio. Y mae'r mwyafrif o'r Affricanwyr sy'n siarad Bantu yn synied am wartheg—a hynny yn gymysg â syniad crefyddol fel bron yr unig ffurf ar gyfoeth. Gan hynny, y maent yn meddwl yn nhermau rhif yn hytrach na gwerth, ac yn awr dyma'r Dyn Gwyn yn dod ar y maes, a'r meddygon anifeiliaid yn llwyddo i wared, o un i un, y clefydon gwartheg a fuasai'n rhwystr yn y gorffennol i gynnydd mawr ym mhreiddiau da'r brodorion. Mewn llawer o ardaloedd y mae cadw gormod o stoc eisoes yn hen beth. Y mae hyn yn arwain i bori'r tir hyd at ei ddifa, a phan gollo'r pridd yr amddiffyn a gaiff gan y porfeydd a'i gorchuddia, y mae perygl iddo gael ei olchi i ffwrdd gan y glawogydd llifeiriol sydd mor nodweddiadol o'r tymor gwlyb yn y Trofannau. Ac felly mewn llawer rhanbarth—ac yn eu