Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plith rai o rannau gorau Affrica Ddwyreiniol—y mae treulio ac ysu'r pridd eisoes yn fater difrifol iawn.

Beth, ynteu, yw'r feddyginiaeth? I wella ansawdd a safon amaethyddiaeth y brodorion, yr hyn y mae'n rhaid ei wneuthur gyntaf oll yw dyfod o hyd i ryw ddulliau eraill i roi bywyd newydd yn y tir ar ôl codi cnydau arno. O'r gwahanol ddulliau a archwiliwyd un o'r rhai mwyaf addawol yw ffarmio cymysg. Y mae ei lwyddiant, serch hynny, yn dibynnu ar yr ymdrechion a wneir i sicrhau gwaredigaeth rhag haint yn y rhanbarthau lle y ceir y gwybedyn tsetse, ac i drefnu y defnyddir gwartheg mewn ffordd fwy economaidd gan y brodorion mewn mannau eraill. Ond cyn y gall ffarmio cymysg o'r math y meddylir amdano fod yn llwyddiannus, y mae'n rhaid i'r brodorion ddysgu ymsefydlu ar y tir mewn modd mwy parhaol nag y buont yn arfer ei wneuthur yn y gorffennol. Yn awr, pe gellid cael ganddynt ymroi i godi cnydau a'u newid o flwyddyn i flwyddyn mewn trefn a fai'n taro i'r amodau lleol, byddent yn abl i sefyll yn yr un lle. O gael mwy o amrywiaeth yn eu cnydau ceid. hefyd fwy o amrywiaeth yn eu hymborth: unwaith yr ymsefydlent mewn un lle yn barhaus, gallent adeiladu cabanau gwell: a byddai'r holl bethau hyn yn cael dylanwad dymunol iawn ar eu hiechyd ac ar eu cysur a'u lles cyffredinol. Y mae popeth, wrth gwrs, yn dibynnu ar eu perswadio i dderbyn trefn addas o newid y cnydau; ac mewn trefn o'r fath byddai cnydau i'w hallforio—megis cnau'r ddaear neu gotwm yn rhan hanfodol a rheolaidd o gynllun lletach a mwy cynhwysfawr. Ar ôl blynyddoedd o ymchwil rhagarweiniol, y mae polisi ar y fath linellau eisoes ar waith mewn amryw rannau o'r Affrica Drofannol sydd dan ofal Prydain. Cyn y gellir ei gymhwyso a'i gyfaddasu i ran-