barthau eang bydd yn rhaid wrth bropaganda diwyd am lawer o flynyddoedd, achos nid gwaith hawdd yw newid arferion sydd wedi gwreiddio ers canrifoedd. Ond yn y modd hwn ymddengys yn bosibl dal i gynhyrchu cymaint, a hyd yn oed fwy, o allforion amaethyddol, heb wneuthur i'r brodorion Affricanaidd ddibynnu'n gyfan gwbl ar gyfnewidiadau mympwyol marchnad y byd. Hefyd, dylai datblygiad economaidd o'r fath arwain i welliant amlwg mewn iechyd ac amodau byw yn gyffredinol. A gallai Prydain Fawr yn ddigon teg hawlio ci bod yn ymgodymu â'r cyfrifoldeb a roddwyd arni gan y Mandad Dwbl.
(b) Anghenion y Dyn Gwyn
Ym mha le bynnag a pha bryd bynnag y rhoddid Llywodraeth Prydain i reoli dros lwythau Affricanaidd, byddid. yn gosod trethi er mwyn talu treuliau'r weinyddiaeth. Ond yr oedd defnyddio arian bath yn beth na wyddid amdano yn Affrica Drofannol o gwbl cyn i'r Ewropeaid gyrraedd yno. Ac felly, er mwyn gallu talu'r trethi uniongyrchol, yn ôl cais y Llywodraeth, mewn arian parod, yr oedd dau brif lwybr yn agored i'r brodorion: yn y lle cyntaf, gallent, fel y gwelsom, dyfu cnydau i'w hallforio; yn yr ail, gallent geisio gwaith am hur a thâl yng ngwasanaeth y dyn gwyn. Y mae hyn yn gyfystyr â dweud fod gofynion y dreth, ac yn rhai ardaloedd ryw gymaint o orfodaeth, wedi bod yn gyfrifol, i raddau helaeth, yn y gorffennol am beri i bobl Affrica ymgydnabod â gorchwylion diwydiannol Ewropeaidd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, dangosodd profiad yn Affrica fod gan drethi, onid ydynt yn ormesol, lawer llai o ddylanwad parhaol nag sydd gan siopwr y pentref. Y mae gweled mintai yn dychwelyd o weithio mewn mwynglawdd