Y symud amlycaf yw i'r mwyngloddiau aur a chopr yn Undeb Deheudir Affrica a Rhodesia. Amcangyfrifwyd, er enghraifft, fod y gweithwyr sydd bob blwyddyn yn gadael Swaziland (i fynd i'r Undeb, yn bennaf) yn rhyw 10,000 allan o boblogaeth o 26,000 o bobl mewn oed; o Bechuanaland yn rhyw 7,000 allan o tua 40,000; ac o Basutoland yn rhyw 60,000 allan o 120,000; ac er na ellir cyfrif pa faint of amser y maent i ffwrdd, y mae'n eglur nad yw'r rhai a gyflogir yn y mwyngloddiau yn absennol am lai na blwyddyn, a'r cyfnod y gweithir ynddo, ar gyfartaledd, yw un mis ar ddeg. Y mae Rhodesia Ogleddol hithau yn rhanbarth y daw llafurwyr ohoni; amcangyfrifwyd fod 53,462 o frodorion yn 1936 yn cael eu cyflogi y tu mewn i ffiniau'r rhanbarth, a 51.212 y tu allan iddynt. Y mae'r un broblem, ers llawer flynyddoedd, wedi bod yn achos pryder yn Nyasaland, canys yno amcangyfrifwyd fod 120,000 yn 1935 allan o boblogaeth o 750,000 o wrywod yn gweithio y tu allan i'r wlad.
Yn y tiriogaethau a enwyd uchod y gwelir amlycaf effeithiau symud llafurwyr o fan i fan (yn Uganda ac yn nhrefedigaethau Gorllewin Affrica cyfyngir y symud i dymhorau arbennig ac i bwrpas amaethyddol). Y mae'n debyg of fod yn wir fod yn y tiriogaethau hynny ardaloedd lle y mae absenoldeb y gwrywod mewn oed wedi effeithio ar y cynnydd normal yn y boblogaeth. Gellir hefyd gymryd yn ganiataol fod eu habsenoldeb mewn llawer man wedi peri fod llai o nwyddau yn cael eu cynhyrchu at gynhaliaeth. Felly, adroddodd Prif Ddirprwywr y Brodorion yn Rhodesia Ddeheuol yn 1926 fod yn y rhanbarthau neilltuedig, y cyfaddefid fod gormod o boblogaeth ynddynt, dri chwarter y tir y gellid ei drin heb ei droi o gwbl oherwydd diffyg gwŷr.