Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n wir fod llawer o'r gwaith amaethyddol yn cael ei wneud gan y gwragedd; ar y llaw arall, ymhob cymdeithas frodorol, y mae gan y gwryw orchwylion arbennig na ellir mo'u trosglwyddo i wragedd. Y mae'r rhain yn neilltuol of bwysig yn yr ardaloedd hynny lle y trinir y tir bron i gyd yn ôl y drefn symudol, ac y mae'n rhaid cwympo coed cyn y gellir bracnaru'r tir a hau ynddo. Yn Neheudir Affrica, yn arbennig, y mae'r ffaith fod yr aradr fwyfwy yn cymryd lle'r gaib wedi gwneuthur rhan y gwryw wrth drin y tir yn bwysicach byth. Hwyrach y gellid cyflenwi'r golled mewn cynnyrch gan yr elw a ddeilliai o'r cyflogau a enillid gan y gwŷr yn eu habsenoldeb, pe dygid cyfartaledd sylweddol o'r enillion yn ôl, ond nid yw hynny yn digwydd bob amser. Yn wir, gan mor isel yw safon y cyflogau nid oes gan y gweithwyr a à ar gerdded siawns i gronni digon o gyfalaf i adael i drefniadau economaidd hanfodol y pentref gael eu had-drefnu mewn modd i wneuthur iawn am absenoldeb y gwŷr. Y mae'n bosibl sôn yn fwy pendant am effeithiau cymdeithasol yr ymfudiad. Trawyd Comisiwn, a oedd yn archwilio amodau byw yn Affrica Ddwyreiniol, yn 1929, gan y sefyllfa ddifrifol a ddigwyddai petai cymaint o frodorion yn absennol o'r rhanbarthau neilltuedig ag i ymyrryd â pharhad y teuluoedd brodorol a'u bywyd llwythol. Hyd yn hyn ni chafwyd astudiaeth gyffredinol o'r broblem, ond y mae adroddiad Pwyllgor yn 1936 yn cynnwys tystiolaeth o awdurdod fod ymfudo o Nyasaland yn cael drwg-effaith ar fywyd y teulu ac yn ei ddadgymalu, yn arwain i lacrwydd mewn moesau, ac i anwybyddu'r defodau traddodiadol sy'n rheoli ymddygiad.

Erbyn heddiw y mae'r canlyniadau hyn yn rhai mor hawdd gosod bys arnynt ag yr hawliant fod sylw difrifol yn