Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael ei roi i'r cwestiwn i ba raddau y mae'n bosibl eu rhwystro. Gellir gofyn yn burion onid yw amgylchiadau yn Affrica yn cyfiawnhau gwneuthur dewis pwrpasol rhwng cefnogi cynnyrch nwyddau brodorol ac ehangu anturiaeth ddiwydiannol. Y mae cwestiwn o'r fath yn rhy fawr i ym- drin ag ef yma; ond gellir awgrymu nad yw'r ddwy ffordd o ddatblygiad o anghenraid yn rhedeg yn groes i'w gilydd. I'r gwrthwyneb, cred sy'n magu mwy a mwy o nerth yw fod datblygu trin y tir gan y brodorion ar gyfer eu hanghenion eu hunain yn help sylweddol i ffurfio llu o weithwyr mwy effeithiol, i ddwyn sefydlogrwydd a chadernid i fywyd teuluol y brodorion, i sicrhau iechyd, a thrwy hynny i beri cynnydd yn y boblogaeth. Yn wir, fe gaiff cymdeithas frodorol a fo'n llwyddiannus ac yn parhau i ddatblygu, a'i hanghenion yn cynyddu, ffynhonnell incwm newydd a derbyniol wrth gael cyfle i ennill cyflog dan amgylchiadau priodol. Ar yr un pryd, er gorfod derbyn fel pethau anochel lawer o'r hyn sy'n codi oddi wrth y galw am lafurwyr diwydiannol, y mae angen mawr am bolisi i geisio lliniaru ei ganlyniadau drwy benderfynu i ba raddau y dylid tynnu. gweithwyr o ardaloedd arbennig, a thrwy wella amodau cyffredinol byw yn y rhanbarthau a amddifedir ohonynt. Y mae'r ail beth mewn golwg yn egwyddor ym mholisi Prydain sydd wedi ei chydnabod fwyfwy yn ymarferol, er mai ychydig o sylw a roddwyd i'r cyntaf. Yn wir, ac ystyried galwadau trwm y trethi, a bod mwy a mwy o ofyn am nwyddau Ewropeaidd, bydd yn rhaid diwygio llawer o bethau cyn y gellir datrys y broblem yn llwyr. Dylid nid yn unig ostwng y trethi mewn rhanbarthau anghysbell, ond hefyd ddarparu moddion eraill i gael cyflog mewn arian parod. Gellir gwneud yr ail beth naill ai drwy gefnogi