Tudalen:Y Trefedigaethau.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynhyrchu gan y brodorion eu hunain ai ynteu drwy sefydlu planhigfeydd yn agos i'r ardaloedd lle triga'r llwythau. Dylid cofio, serch hynny, na all y feddyginiaeth olaf hon fod yn effeithiol ond ar yr amod nad yw'n golygu lleihau maint y tir y gellir ei gadw at gynnal y brodorion. Yn Affrica Orllewinol rhoddir prydlesau i Ewropeaid at fasnachu neu at fwyngloddiau; a siarad yn gyffredinol, cadwyd trefn a rheolaeth weddol dda ar y dylanwadau economaidd Ewropeaidd, a'r bwriad yw eu gwneuthur yn ddarostyngedig i fuddiannau'r gymdeithas frodorol, a chadw'r hyn a gynhyrchir gan y brodorion fel y brif sail y gellir codi cyfundrefn economaidd arni. Yn anffodus, diystyrwyd yr egwyddor hon yn llwyr yn Affrica Ddeheuol ac Affrica Ddwyreiniol. Hyn yn bennaf dim sydd i gyfrif am yr anhrefn a'r terfysg sydd yn bygwth y gymdeithas frodorol yn y parthau hynny. Y mae'n ofidus meddwl fod pethau wedi datblygu yno fel gwnaethant er bod gan yr ymfudwyr a'r cyfarwyddwyr Prydeinig holl hanes India'r Gorllewin i'w tywys. Yno, yn yr hynaf oll o drefedigaethau Prydain, y mae twf proletariat heb dir wedi dwyn yn ei sgîl broblemau aruthrol nad oes. modd, ysywaeth, inni ymdrin â hwy mewn pamffled bychan fel hwn.

V. PROBLEM Y TREFEDIGAETHAU

Cymerasom y rhan fwyaf o'n gofod i sôn am rai o'r amodau byw yn ein trefedigaethau yn Affrica Drofannol. Prin y cyffyrddasom o gwbl â'r problemau sy'n wynebu gweinyddwyr Prydeinig mewn trefedigaethau eraill-problem