Tudalen:Y Wen Fro.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er amseroedd cynnar iawn bendithiwyd Gwlad Forgan â meibion enwog, ac y maent wedi ei gwasanaethu hi a Chymru yn ffyddlon a da. Magwyd ynddi hi ddynion grymus mewn brwydrau, a llenorion gwych, ac er dyddiau cynnar adnabuwyd ei beirdd o'r naill gwr o'r wlad i'r llall. (Gwelir hyn yn y cyfeiriad yn stori Math fab Mathonwy at "Feirdd o Forgannwg.") Y mae'r beirdd hyn wedi ei chlodfori am ei phrydferthwch a'i chynhesrwydd.

Prydferthwch! Clywaf chwi'n dweud "Nid oes ym Morgannwg ond cymoedd gweithfaol, tomenni ysbwrial y gwaith glo, pyllau glo, gweithiau haearn a dur, a dociau. Onid dyna randir y wlad lle y ceir streiciau yn aml? sicr, nid oes prydferthwch yn perthyn i'r pethau hyn!"

Edrychwn ymha le y gorwedd ei phrydferthwch. Rhennir Sir Forgannwg yn ddwy ran, a gelwir hwy y Cymoedd' neu'r 'Dyffrynnoedd' a'r Fro. Ni ellir dal bod y Cymoedd heddiw yn brydferth, oherwydd y mae dyn wedi hagru prydferthwch naturiol y mannau coediog hardd hyn. Y mae'n rhaid cyfaddef nad yw Cwm Rhondda, un o brif gymoedd gweithfaol Sir Forgannwg, yn nodedig heddiw am ei harddwch, ond lai na chan mlynedd yn ôl, yr oedd yn gwm prydferth dros ben. Dyma ddisgrifiad ohono fel yr oedd tua thrigain mlynedd yn ôl—"Y mae Cwm Rhondda yn fwy prydferth, hyd yn oed, na Chwm Taf; o leiaf, y mae'n fwy gwyllt a mawreddog, ac yn debyg i ddyffryn Gwy, o ran ei glog-