Tudalen:Y Wen Fro.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyni sydd wedi eu gorchuddio â chen a phrysgwydd bytholwyrdd." Ond, gwae hi! hyd yn oed o fewn cof awdur y geiriau hyn, torrwyd coed i lawr yn ddidrugaredd, heb ailblannu rhai yn eu lle. Codwyd rhesi ar bennau'i gilydd o ystrydoedd, ac, fel y clywais blentyn bach yn dweud untro, fe grewyd o'r ysbwrial fynyddoedd newydd hagr. Bellach, nid yw'n bosibl cymharu prydferthwch Cwm Rhondda ag eiddo dyffryn Gwy. Nid yw'n awr yn llawenychu calon y bardd fel cynt! Ond, er gwaethaf hyn, gallwn hawlio bod bobl y cymoedd wresogrwydd y "Wlad Gynnes." "Dynion dwad "yw'r rhan fwyaf o drigolion canol oed a hen y cymoedd. Ychydig mewn rhif yw disgynyddion yr hen frodorion. Y mae ganddynt felly draddodiad am letygarwch a chroeso tuag at ddieithriaid. Er gwaethaf streiciau ac anawsterau ym myd masnach, y mae yma lawer o gariad brawdol, oherwydd y mae'r bobl yn byw yn agos iawn at bethau sylfaenol bywyd. Gwyddant beth yw byw yng "Nglyn Cysgod Angau," ac, yn ddi-os, y mae hynny wedi dwysáu eu profiadau. Gwyddant drwy brofiad beth yw "rhoi angen un rhwng y naw," a gwna hynny hwy'n barod i rannu'r dorth olaf mewn angen. Y mae gwroldeb yn eu gwaed. Rhaid i'r dynion wrth wroldeb i lawr yng nghrombil y ddaear, ac y mae gwir angen gwroldeb ar y gwragedd a'r mamau yn eu brwydr feunyddiol i gael dau pen y llinyn ynghyd.

Disgrifir bywyd y glowr Cymreig gan Wil Ifan