yn ei gân, "Cerdd y Glowr," ond, fel y dywed yn ei bennill olaf, nid trasiedi yw ei holl fywyd. Ceir yn ogystal yr hiwmor a'r ffraethineb a welir yn aml ochr yn ochr â dwyster mawr; ceir y cariad at ganu a cherddoriaeth sydd yn dyrchafu ei fywyd i dir uwch, ac fe geir ei benderfyniad i aberthu er budd y genhedlaeth nesaf.
Pe carech weled y bobl dwymgalon hyn yn union fel y maent, efallai ryw ddiwrnod y darllenwch ddramâu Mr. D. T. Davies, "Ble Ma Fa ?" "Troi'r Tir," "Ffrois," a'r Pwyllgor." Fe sylweddolwch wedyn mai cyfoeth mwyaf y cymoedd gweithfaol yw'r bobl sydd yn byw yn yr ystrydoedd hir anhyfryd, nid y mwynau o dan y ddaear, ac fe welwch wirionedd disgrifiad yr Athro T. Gwynn Jones o'r glowr sydd er gwaethaf ei feiau yn "biwr yn y bôn." Rhyw dro, efallai y dywedaf ychydig wrthych am fannau hanesyddol y bryniau, a'r arwyr a fagwyd ynddynt.
Ni bu diffyg erioed ar ganu clod Bro brydferth Morgannwg. Gelwir hi "Y Wen Fro," a "Bro Morgannwg lon," a llawer enw cariadus annwyl arall. Galwyd hi "Anwyla man yn ael môr," ac fe ddywed y bardd Gwilym Ilid:—
"Tra haul ar daith, tra hwyl ar dôn,
Tra mwynion, dynion dannau,
Tra cŵyn y gwan, tra cân y gog,
Tra niwl yn glog i'r bannau,
Bydd clod Gwlad Forgan, wiwlan ardd,
Yn gân pob bardd â genau."