Tudalen:Y Wen Fro.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morgannwg, er nad yw'n fro mewn gwirionedd, gan nad oes iddo namyn UN gadwyn o fynyddoedd—os oes un. Mae'n wir bod mynyddoedd canolbarth Cymru, yn araf godi mewn amrywiol ddulliau, i'r gogledd ohono. Ond i'r deau, nid oes dim mynyddoedd, na thir, hyd yn oed, ond Sianel Bryste yn unig, a bryniau Dyfnaint fel ffin yn y pellter—y "bryniau Seisnig," fel y geilw'r brodorion hwy, yn weledig o bob uchelfan yn y parthau hyn. Ar dermau eang felly y gelwir y gwastadedd yn FRO, ond pa enw bynnag a roddir iddi, y mae'n rhanbarth ffrwythlon a dymunol, mwyn i frodor, a diddorol i ymwelwr."

Cyfeiria Thomas Carlyle at "dref fach smart Pontfaen." Y mae hon yn hollol wahanol ei ffurf i dref Llanilltud Fawr, a ddisgrifiwyd eisoes, oherwydd un ystryd hir ydyw, ac fe'i gelwid "Y Dref Hir yn y Waun." Prydferth iawn yw amgylchedd y fwrdeisdref hon, a hynafol iawn yw ei hanes. Bu'n dref gaerog yn ystod y goresgyniad Normanaidd, ac yn ôl traddodiad, ymwelodd Owain Glyn Dŵr â hi, ac ar Stalling Down, ger y Bontfaen, bu brwydr fawr. Dywedir i Lyn Dŵr ddinistrio Castell Penmarc yn yr un flwyddyn, ac iddo'r flwyddyn flaenorol wneuthur yr un gwaith ar Gastell Treffleming.

Y mae gan y Bontfaen, fel Llanilltud Fawr, eglwys ddiddorol iawn. Hynodrwydd arbennig hon yw'r tŵr milwrol yr olwg a gyfyd o'i chanol. Ger yr eglwys, gwelir hen Ysgol Ramadeg, a chanddi gysylltiad arbennig â Choleg yr Iesu, Rhydychen. Sefydlwyd yr Ysgol hon a Choleg