Tudalen:Y Wen Fro.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Iesu (ail sefydliad) gan Syr Leoline Jenkins (1625—1685), brodor o Lantrisant yn y Fro. Un o feibion enwog y Fro oedd y gŵr hwn ac arddelir ef fel un o arloeswyr addysg. Bu'n Ysgrifennydd Cartref o dan deyrnasiad y Brenin Siarl II.

Wrth ymweled â'r dref hynafol hon, nac anghofiwch holi am y siop lle y bu Iolo Morganwg (1746—1826), yr hynafiaethydd, yn byw. Dowch o hyd iddi yn ddidrafferth, oherwydd y mae ar yr heol fawr gyferbyn â Neuadd

Neuadd y Dref. Yma, lle y bu Iolo gynt yn cadw siop lyfrau, ceir yn awr siop nwyddau haearn. Ar fur y siop gwelir carreg goffa yn cofnodi'r ffaith mai yno y bu Iolo am ysbaid yn byw.