CROESAU A CHROMLECHAU'R FRO
Y MAE'R Fro'n gyfoethog iawn mewn hen groesau. Gellir eu rhannu'n ddau ddosbarth—y Croesau Celtaidd, wedi eu cerfio'n gywrain gyda'r bleth arbennig a elwir yn bleth Geltaidd, a Chroesau'r Drindod, rhai tra gwahanol ac arnynt baladr main wedi ei goroni â thair delw gerfiedig i gynrychioli tri pherson y Drindod.
Yn Eglwys Llan Gan gwelir Croes Geltaidd brydferth iawn yn perthyn i'r wythfed ganrif. Ceir nifer o groesau ym Margam, un ar dir Tŷ Merthyr Mawr, a gall Llanilltud Fawr hithau ymffrostio mewn nifer o groesau tra phrydferth ac enwog.
Bu gan y mwyafrif o eglwysi'r Fro groesau mynwent yn dyddio o'r unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif. Ni wyddys beth oedd eu tarddiad, ond yn ôl traddodiad adeiladwyd hwy ar y mannau lle y bu pregethu Brwydrau'r Groes. Dinistriwyd y rhan fwyaf ohonynt, ond os edrychwn y tuallan i ddrws deau'r Eglwys, fel ym Merthyr Mawr, gwelwn fod sylfaen y groes yn aros yn aml hyd heddiw. Mewn llawer pentref, fel yn Ninas Powys a Wenvoe, adferwyd y croesau hyn. Ym mynwentydd Llan Gan ac Eglwys Fair ar y Bryn ceir enghreifftiau ardderchog o groesau'r bymthegfed ganrif, tra y mae gan Landunod (St. Donats) groes hynod o brydferth sy'n