Tudalen:Y Wen Fro.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enghraifft ragorol o saerniaeth gelfydd hen groesau'r Drindod.

Yn y darlun gwelwch nifer o fyfyrwyr Coleg y Barri ar ben cromlech a geir tua dwy filltir ar draws y caeau i ogledd y Coleg. Gwelir y math arbennig hwn o hen faen yn agos i'r arfordir a gorchuddir ei hanes â niwl oesau, dirgelwch a rhamant. I ba bwrpas yr adeiladwyd y cromlechau hyn? Cysyllta traddodiad hwy'n aml ag addoli'r Derwyddon, ond, yn ddiamau defnyddid hwy fel daeargelloedd claddu, a gorchuddid hwy â charnedd o gerrig neu dwmpath daear. Dengys ymchwil ddiweddar fod cysylltiad agos rhwng y math hwn o gromlech yn Neau Cymru a rhai beddrodau a ddarganfuwyd yn yr Aifft, ac y mae'n dra thebyg i'r gelfyddyd o adeiladu cromlechau gael ei dysgu yma gan lwythau teithiol yr Affrig, ar eu taith i'r Gorllewin tua phedair mil o flynyddoedd yn ôl. Tebyg hefyd fod Siluriaid Bro Morgannwg yn perthyn i'r rhain, a gelwir eu disgynyddion heddiw yn "Bobl Fach Ddu."

Tua milltir ymhellach o'r Barri mewn lle o'r enw Tinkerwood, ger pentref St. Nicholas, ceir un o'r cromlechau mwyaf a hynotaf ym Mhrydain. Ychydig flynyddoedd yn ôl cloddiwyd yma, a darganfuwyd tua hanner cant o sgerbydau yn profi, heb os nac onibai, mai claddfa llwyth neu deulu pwysig yn yr ardal ydoedd. Hyd yn gymharol ddiweddar, adroddid llawer stori hud am y gromlech anferth hon, rai ohonynt yn debyg i storïau hud y Mabinogion.