Tudalen:Y Wen Fro.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Chwi gofiwch ddywedyd yn stori Pwyll Pendefig Dyfed na allasai neb eistedd ar Orsedd Arberth heb dderbyn briwiau ac archollion, neu weled rhyfeddod, ac mai ar nos Galan Mai, mewn awyrgylch hud, y ffeindiodd Teyrnon Twrf Fliant y mab Pryderi a'i alw yn Wri Wallt Euryn.

Yn ôl traddodiad lleol, pe cysgai rhywun o dan y gromlech hon ar noson Galan Mai neu noson Galan Gaeaf, collai ei synnwyr, neu byddai farw, neu yntau tyfai'n fardd. Ni ddywed traddodiad sawl un ag uchelgais farddonol ynddo a geisiodd brofi gwirionedd y stori hon!

Heddiw diflannu y mae'r ofergoelion, ond erys y cromlechau i dystiolaethu am grefft a medr yr hen adeiladwyr hynny a fu byw flynyddoedd maith yn ôl.