LLANILLTUD FAWR
MAWR obeithiaf y cewch oll rywdro weled Llanilltud Fawr—tref tua deng milltir o'r Barri. Y mae pob heol ynddi yn arwain at yr Eglwys, ac yn y Canol Oesoedd yr oedd croes wrth bob mynedfa i'r dref.
Saif yr eglwys a'r dref tua milltir o lan y môr, ac fel y mwyafrif o eglwysi'r Fro adeiladwyd hi mewn cilfach er diogelwch. Dywedir wrthyf, er na phrofais wirionedd y dywediad, fod tair ffordd ar ddeg o lan y môr i'r dref. Dylai fod yn lle campus i chwarae mig!
Fel y tystia'r enw gelwir y dref ar ôl Eglwys y Sant Illtud. Cyfrifid Illtud yn athro mawr, ac yr oedd ei fri a'i glod yn nodedig. Dywedir bod Gildas, Sant Samson o Dol, a Sant Pol de Leon o Lydaw, St. Padrig a Dewi Sant, ymhlith ei ddisgyblion. Yn ôl traddodiad, enw cyntaf Llanilltud oedd "Côr " neu "Bangor Eurgain." Enw merch Caradog, Brenin y Siluriaid, oedd Eurgain neu Gwladus, a bu fyw yn y drydedd ganrif. Yn ôl yr hen stori aeth i Rufain gyda'i thad, ac yno dysgodd am y grefydd Gristnogol a'i choleddu. Pan ddychwelodd adref, sefydlodd goleg i bedwar ar hugain o fynachod. Dywedir i'r nifer gynyddu nes bod yno rhwng dwy a thair mil o fyfyrwyr, yn byw mewn saith neuadd. Gwelir olion un tŷ byw, ysgubor y degwm, a cholomendy yno heddiw.