Tudalen:Y Wen Fro.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Honnir mai dyma'r fan lle'r oedd y sefydliad Cristnogol cyntaf ym Mhrydain. Y mae'r eglwys yn un odiaeth o hardd, a saif ar sylfeini'r hen eglwys gynnar. Rhennir hi, fel y mae heddiw, yn dair rhan yn gyntaf, y rhan gyn-Normanaidd a berthyn i'r nawfed ganrif, ac iddi do o dderw Iwerddon a phorth wedi ei adeiladu o gerrig a gloddiwyd yn amser y Rhufeiniaid; yn ail, y tŵr ysgwâr yn perthyn i'r drydedd ganrif ar ddeg, a'r to yn perthyn i'r bymthegfed ganrif; ac, yn drydedd, yr eglwys ddiwethaf a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Gadewch i ni'n gyntaf ymweled â'r rhan a berthyn i'r nawfed ganrif. Y mae hon ym mhen gorllewinol yr eglwys. Yma gwelir tair croes Geltaidd yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif. Gall Llanilltud Fawr fod yn falch iawn o'i heiddo.

Enwau'r croesau hyn yw Croes Illtud (y Nawdd Sant), Croes Samson (a adeiladwyd gan un o'r seintiau cynnar a'i hanes yn gysylltiedig â Llanilltud), a Chroes Hywel. Darganfuwyd Croes Samson gan Iolo Morganwg, a dodwyd hi yn yr eglwys yn 1905. Y mae Croes Hywel, sydd ar ffurf olwyn, yn un brydferth ac enwog. Y mae'r bleth Geltaidd mewn gwahanol ddulliau yn addurno'r tair croes hyn. Copiwyd Croes Hywel, a dodwyd y copi fel cof golofn ar ysgwâr y dref.

Awn yn awr at y tŵr. Yn y fan hon gwelwch sedd o garreg gydag ochr y mur, oherwydd yn y dechrau yr oedd ystyr yn "y gweiniaid yn mynd at y wal," a dyma hi—yn eglwysi'r Canol Oesoedd