IOLO MORGANWG (1746—1826)
NI bu cymeriad mwy diddorol ac amryddawn nag Edward Williams, neu fel yr adweinid ef gan bawb, Iolo Morganwg, yn byw ym mro Morgannwg.
Carech, mi wn, wybod ychydig am y dyn rhyfedd hwn. Ganed ef ym mhlwyf Llancarfan,—lle y clywsoch amdano mewn pennod flaenorol. Bu fyw'r rhan fwyaf o'i oes yn Nhreffleming, yn y Fro, ac yno y mae man tawel ei fedd. Saer maen oedd wrth ei alwedigaeth, a dywedir i rai o'r beddargraffiadau yn Eglwys Llanilltud Fawr gael eu cerfio ganddo. Ychydig addysg a gafodd yn ei ieuenctid, a dywedir mai wrth weled ei dad yn cerfio llythrennau ar gerrig beddau y dysgodd ddarllen.
Ond dyn eithriadol ydoedd, a daeth i adnabod enwogion Cymru a Lloegr. Bu'n gyfaill mawr i Southey, y bardd Saesneg.
Teithiodd o'r naill ran o Gymru i'r llall mewn oes na wyddai am drên, gan gerdded cannoedd a channoedd o filltiroedd i geisio caniatâd i gopio hen lawysgrifau Cymraeg. Dywedir na chymerai ei wrthod gan neb. O'r defnyddiau hyn cyhoeddwyd y Myfyrian Archaiology a llawysgrifau Iolo, fel y'u gelwid, yn gyfrolau anferth o waith.
Dengys ysgolheictod diweddar mai dyn anodd,