yn wir, amhosibl ei ddeall oedd Iolo, oherwydd er ei fod yn awyddus am glod fel bardd, priodolodd rai o'r darnau prydferthaf o'i waith ei hun i Ddafydd ap Gwilym, bardd y bedwaredd ganrif ar ddeg, er enghraifft:—
Gyda Gwen 'r wy'n ddibenyd,
Gwna hon fi'n galon i gyd."
Y mae'n sicr mai Iolo oedd awdur y cywydd, "Gyrru'r Haf i Annerch Morgannwg," ac yn hwn cawn nifer o gwpledi a ddengys gariad cynnes Iolo at ei gynefin fro.
"Gwlad dan gaead yn gywair,
Lle nod gwych, llawn ŷd a gwair;
Llynnoedd pysg, gwinllannoedd pêr,
A maendai, lle mae mwynder."
"Llawn adar a gâr y gwŷdd—
A dail a blodau dolydd,
Coed osglog, caeau disglair,
Wyth ryw ŷd a thri o wair;
Perlawr pawrlas, mewn glas glog,
Yn llannaidd a meillionnog!"
"Morgannwg ym mrig ynys
A byrth bob man, llan a llys."
A dywed wrth yr Haf:—
Gwasgar hyd ei daear deg
Gu nodau dy gain adeg."