Tudalen:Y Wen Fro.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr eglwys. Y mae yma fedyddfaen prydferth, hen allor gerrig, piscina dwbl, ac ysgrîn goed odiaeth o dlws. Ar y llawr gwelir copïau o hen deils oedd yn yr eglwys, a gresyn mai ychydig o'r rhai gwreiddiol sydd ar gael.

Pan ewch i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, cofiwch edrych am ddarlun o'r Eglwys gan yr arlunydd Turner. Yn yr amser pan baentiodd ef hi yr oedd anifeiliaid ac ednod yn cael byw yn y rhan a berthynai gynt i'r mynach- od, gan fod y teulu yn dlawd ar y pryd. Y mae'r rhan hon o'r eglwys yn perthyn heddiw i'r Picton-Turberville, disgynyddion y Turbervilles a ddaeth i'r rhan hon gyda Maurice de Londres yn amser William II, a chanddynt ganiatâd oddi wrthoi ffurfio stad iddynt eu hunain. Gwelir tabledi a cherrig coffa i'r teulu yn y rhan fynachaidd o'r Eglwys.

Chwi glywsoch, efallai, sut y daeth y Turbervilles, er eu bod yn estroniaid Normanaidd, yn Gymry trwy fabwysiad. Yn ôl y stori, fe briododd un ohonynt ag etifeddes y Coety ac o hynny allan yr oedd Turberville yn arwain y Cymry yn erbyn y Normaniaid.

Perthynai Syr Thomas Picton i'r teulu, ac arhosodd yn y Priordy y noson cyn cychwyn ar ei daith i Waterlŵ.

Y mae'r Picton-Turbervilles yn ymhyfrydu yn hanes a thraddodiadau eu hen gartref. Y maent yn eithriadol o foesgar i ddieithriaid, ac yn ein hoes ni y mae un o'r merched, Miss Edith Picton-Turberville, yn gweithio â'i holl egni dros