Tudalen:Y Wen Fro.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fudiadau dyngarol a chymdeithasol. Fel hyhi, hyderaf fod y Wen Fro yn ymfalchio yn ei gorffennol, ond yn gweithio yn y presennol â'i llygaid ar dyfodol. Boed i Fro Morgannwg adennill ei hen iaith a thraddodiadau ysbrydol ein cenedl ni, fel y gallo eto fagu cewri i wasanaethu Cymru.

Dyma'n pererindod trwy Fro Morgannwg ar ben. Gobeithio yr erys yn eich cof.