a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
5:39 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol, a hwynt-hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi.
5:40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.
5:41 Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant sydd oddi wrth ddynion.
5:42 Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
5:43 Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
5:44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
5:45 Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
5:46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe.
5:47 Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?
PENNOD 6
6:1 Wedi’r pethau hyn yr aeth yr Iesu dros fôr Galilea, hwnnw yw môr Tiberias.
6:2 A thyrfa fawr a’i canlynodd ef; canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethai efe ar y cleifion.
6:3 A’r Iesu a aeth i fyny i’r mynydd, ac a eisteddodd yno gyda’i ddisgyblion.
6:4 A’r pasg, gŵyl yr Iddewon, oedd yn agos.
6:5 Yna yr Iesu a ddyrchafodd ei lygaid, ac a welodd fod tyrfa fawr yn dyfod ato; ac a ddywedodd wrth, Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta?
6:6 (A hyn a ddywedodd efe i’w brofi ef. canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)
6:7 Philip a’i hatebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pob un ohonynt gymryd ychydig.
6:8 Un o’i ddisgyblion a. ddywedodd wrtho, Andreas, brawd Simon Pedr,
6:9 Y mae yma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau bysgodyn: ond beth, yw hynny rhwng cynifer?
6:10 A’r Iesu a ddywedodd, Perwch i’r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mill o nifer.
6:11 A’r Iesu a gymerth y torthau,.ac wedi iddo ddiolch, efe a’u disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant.
6:12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim.
6:13 Am hynny hwy a’u casglasant, ac a lanwasant ddeuddeg basgedaid o’r briwfwyd o’r pum torth haidd a weddillasai gan y rhai a fwytasent.
6:14 Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethai’r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw’r proffwyd oedd ar ddyfod i’r byd.
6:15 Yr Iesu gan hynny, pan wybu bod hwy ar fedr dyfod, a’i gipio ef i’w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i’r mynyddd, ei hunan yn unig.
6:16 A phan hwyrhaodd hi, ei ddisgyblion a aethant i waered at y môr.
6:17 Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant dres y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi weithian yn dywyll, a’r.Iesu ni ddaethai atynt hwy.
6:18 A’r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.
6:19 Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump ar hugain neu ddeg ar hugain o ystadiau, hwy a welent yr Iesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesáu at y llong; ac a ofnasant.
6:20 Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw; nac ofnwch.
6:21 Yna y derbyniasant ef yn chwannog i’r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tir yr oeddynt yn myned iddo.
6:22 Trannoeth, pan welodd y