Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1003

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

a’m gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.

5:12 Yna hwy a ofynasant iddo, Pwy yw’r dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?

5:13 A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasai o’r dyrfa oedd yn y fan honno.

5:14 Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.

5:15 Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i’r Iddewon, mai’r Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach.

5:16 c am hynny yr Iddewon a erlidiasant Yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Saboth.

5:17 Ond yr Iesu a’u hatebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.

5:18 Am hyn gan hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dorri’r Saboth, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal â Duw.

5:19 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon dim ohono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae’r Mab yr un ffunud yn ei wneuthur.

5:20 Canys y Tad sydd yn caru’r Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy na’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.

5:21 Oblegid megis y mae’r Tad yn cyfodi’r rhai meirw, ac yn eu bywhau; felly hefyd y mae’r Mab yn bywhau y rhai a fynno.

5:22 Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab:

5:23 Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef.

5:24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

5:25 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw.

5:26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;

5:27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn.

5:28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef.

5:29 A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn.

5:30 Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu; a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.

5:31 Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.

5:32 Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi.

5:33 Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd.

5:34 Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.

5:35 Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.

5:36 Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i.

5:37 A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef.

5:38 Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn