4:37 Canys yn hyn y mae’r gair yn wir, Mai arall yw’r hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.
4:38 Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a llafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.
4:39 A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, oherwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.
4:40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid ato ef, hwy a atolygasant iddo aros gyda hwynt. Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.
4:41 A mwy o lawer a gredasant ynddo ef oblegid ei air ei hun.
4:42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw’r Crist, Iachawdwr y byd.
4:43 Ac ymhen y ddeuddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilea.
4:44 Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw proffwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun.
4:45 Yna pan ddaeth efe i Galilea, y Galileaid a’i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerwsalem ar yr ŵyl: canys hwythau a ddaethant i’r ŵyl.
4:46 Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Gana yng Ngalilea, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum
4:47 Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.
4:48 Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
4:49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen.
4:50 Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.
4:51 Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.
4:52 Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
4:53 Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ.
4:54 Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.
PENNOD 5
5:1 Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon; a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem.
5:2 Ac y mae yn Jerwsalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ac iddo bum porth;
5:3 Yn y rhai y gorweddai lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr.
5:4 Canys angel oedd ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu’r dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu’r dwfr, a âi yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.
5:5 Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf namyn dwy flynedd deugain.
5:6 Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?
5:7 Y claf a atebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i.
5:8 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod cymer dy wely i fyny, a rhodia.
5:9 Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A’r Saboth oedd y diwrnod hwnnw.
5:10 Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y Saboth yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.
5:11 Efe a atebodd iddynt, Yr hwn