Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1001

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.

4:7 Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.

4:8 (Canys ei ddisgyblion ef a aethant i’r ddinas i brynu bwyd.)

4:9 Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid.

4:10 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol.

4:11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?

4:12 Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid?

4:13 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:

4:14 Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol.

4:15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.

4:16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma.

4:17 Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr:

4:18 Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.

4:19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti.

4:20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli.

4:21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerusalem.

4:22 Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon.

4:23 Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef.

4:24 Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd.

4:25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.

4:26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.

4:27 Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?

4:28 Yna y wraig a adawodd ei dyfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,

4:29 Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum, onid hwn yw’r Crist?

4:30 Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant ato ef.

4:31 Yn y cyfamser y disgyblion a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.

4:32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwyta yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.

4:33 Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, A ddug neb iddo ddim i’w fwyta?

4:34 Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorffen ei waith ef.

4:35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw’r cynhaeaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meysydd; canys gwynion ydynt eisoes i’r cynhaeaf.

4:36 A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi lawenychu ynghyd.