Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1000

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

3:13 Ac nid esgynnodd neb i’r nef, oddieithr yr hwn a ddisgynnodd o’r nef, sef Mab y dyn, yr hwn sydd yn y nef.

3:14 Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y dyn;

3:15 Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

3:16 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

3:17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.

3:18 Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw.

3:19 A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.

3:20 Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casglu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef.

3:21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.

3:22 Wedi’r pethau hyn, daeth yr Iesu a’i ddisgyblion i wlad Jwdea; ac a arhosodd yno gyda hwynt, ac a fedyddiodd.

3:23 Ac yr oedd Ioan hefyd, yn bedyddio yn Ainon, yn agos, i Salim; canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a’u bedyddiwyd:

3:24 Canys ni fwriasid Ioan eto yng ngharchar.

3:25 Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a’r Iddewon, ynghylch puredigaeth.

3:26 A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyda thi y tu hwnt i’r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist ti, wele, y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.

3:27 Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o’r nef.

3:28 Chwychwi eich hunain ydych dystion i mi, ddywedyd ohonof fi, Nid myfi yw’r Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef.

3:29 Yr hwn sydd ganddo y briodferch, yw’r priodfab, ond cyfaill y priodfab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priodfab: y llawenydd hwn mau fi gan hynny a gyflawnwyd.

3:30 Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minnau leihau.

3:31 Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb.

3:32 A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.

3:33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw DUW.

3:34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd.

3:35 Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef.

3:36 Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.


PENNOD 4

4:1 Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan,

4:2 (Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, either ei ddisgyblion ef,)

4:3 Efe a adawodd Jwdea, ac a aeth drachefn i Galilea.

4:4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.

4:5 Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, gerllaw y rhandir a roddasai Jacob i’w fab Joseff:

4:6 Ac yno yr oedd ffynnon Jacob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol