Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/999

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab,

2:10 Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.

2:11 Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.

2:12 Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.

2:13 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem;

2:14 Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd.

2:15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau:

2:16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.

2:17 A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.

2:18 Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?

2:19 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac rnewn tridiau y cyfodaf hi.

2:20 Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?

2:21 Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff.

2:22 Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.

2:23 Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.

2:24 Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll;

2:25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.


PENNOD 3

3:1 Ac yr oedd dyn o’r Phariseaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon:

3:2 Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef.

3:3 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.

3:4 Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni?

3:5 Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o’r Ysbryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.

3:6 Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd, a’r hyn a aned o’r Ysbryd, sydd ysbryd.

3:7 Na ryfedda ddywedyd ohonof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn.

3:8 Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.

3:9 Nicodemus a atebodd ac a ddywedod wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?

3:10 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?

3:11 Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a’n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.

3:12 Os dywedais i chwi bethau daearol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?