Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1006

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.

6:52 Yna yr Iddewon a ymrysonasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta?

6:53 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.

6:54 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.

6:55 Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir.

6:56 Yr hwn sydd yn bwyta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau.

6:57 Fel yr anfonodd y Tad byw fi, ac yr ydwyf fi yn byw trwy’r Tad: felly yr hwn sydd yn fy mwyta i, yntau a fydd byw trwof fi.

6:58 Dyma’r bara a ddaeth i waered o’r nef: nid megis y bwytaodd eich tadau chwi y manna, ac y buont feirw. Y neb sydd yn bwyta’r bara hwn, a fydd byw yn dragywydd.

6:59 Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y synagog, wrth athrawiaethu yng Nghapermaum.

6:60 Llawer gan hynny o’i ddisgyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw’r ymadrodd hwn; pwy a ddichon wrando arno?

6:61 Pan wybu’r Iesu ynddo ei hun, fod ei ddisgyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?

6:62 Beth gan hynny os gwelwch Fab y dyn yn dyrchafu lle yr oedd efe o’r blaen?

6:63 Yr ysbryd yw’r hyn sydd yn bywhau; y cnawd nid yw yn llesáu dim: y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt.

6:64 Ond y mae ohonoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Iesu a wyddai o’r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a’i bradychai ef.

6:65 Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod ataf fi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhad.

6:66 O hynny allan llawer o’i ddisgyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gydag ef.

6:67 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd, fynd ymaith?

6:68 Yna Simon Pedr a’i hatebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.

6:69 Ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod mai tydi yw’r’Crist, Mab y Duw byw.

6:70 Iesu a’u hatebodd hwynt, Oni ddewisais i chwychwi y deuddeg, ac ohonoch y mae un yn ddiafol?

6:71 Eithr efe. a ddywedasai am Jwdas Iscariot, mab Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, ac efe yn un o’r deuddeg.


PENNOD 7

7:1 A’r Iesu a rodiodd ar ôl y pethau hyn yng Ngalilea: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Jwdea, oblegid bod yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.

7:2 A gŵyl yr Iddewon, sef gŵyl y pebyll, oedd yn agos.

7:3 Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymaith oddi yma, a dos i Jwdea; fel y gwelo dy ddisgyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.

7:4 Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i’r byd.

7:5 Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo.

7:6 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.

7:7 Ni ddichon y byd eich casáu chwi; ond y mae yn ei gasáu, oherwydd fy mod i yn tystiolaethu amdano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.

7:8 Ewch chwi i fyny i’r ŵyl hon: nid wyf fi eto yn myned i fyny i’r ŵyl hon, oblegid ni: chyflawnwyd fy amser i eto.