Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1007

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:9 Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yng Ngalilea

7:10 Ac wedi myned o’i frodyr ef i fyny, yna yntau hefyd, a aeth i fyny i’r ŵyl; nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.

7:11 Yna yr Iddewon a’i ceisiasant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?

7:12 A murmur mawr oedd amdano ef ymysg y bobl. Canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nage; eithr twyllo’r bobl y mae.

7:13 Er hynny ni lefarodd neb yn eglur amdano ef, rhag ofn yr Iddewon.

7:14 Ac yr awron ynghylch canol yr ŵyl, yr Iesu a aeth i fyny i’r deml, ac a athrawiaethodd.

7:15 A’r Iddewon a ryfeddasant,. gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu?

7:16 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth nid eiddof fi yw, eithr eiddo’r hwn a’m hanfonodd i.

7:17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae hi, ai myfi ohonof fy hun sydd yn llefaru.

7:18 Y mae’r hwn sydd yn llefaru ohono’i hun, yn ceisio’i ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd eirwir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.

7:19 Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith? Paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?

7:20 Y bobl a atebodd ac a ddywedodd, Y mae gennyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?

7:21 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.

7:22 Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad; (nid oherwydd ei fod o Moses, eithr o’r tadau;) ac yr ydych yn enwaedu ar ddyn ar y Saboth.

7:23 Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar y Saboth, heb dorri cyfraith Moses; a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn yn holliach ar y Saboth?

7:24 Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.

7:25 Yna y dywedodd rhai o’r Hierosolymitaniaid, Onid hwn yw’r un y maent hwy yn ceisio’i ladd?

7:26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wybu’r penaethiaid mewn gwirionedd mai hwn yw Crist yn wir?

7:27 Eithr nyni a adwaenom hwn o ba le y mae: eithr pan ddêl Crist, nis gŵyr neb o ba le y mae.

7:28 Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y deml, a lefodd ac a ddywedodd, Chwi a’m hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: ac ni ddeuthum i ohonof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a’m hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.

7:29 Ond myfi a’i hadwaen: oblegid ohono ef yr ydwyf fi, ac efe a’m hanfonodd i .

7:30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethai ei awr ef eto.

7:31 A llawer o’r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Crist, a wna efe fwy o arwyddion na’r rhai hyn a wnaeth hwn?

7:32 Y Phariseaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn amdano ef; a’r Phariseaid a’r archoffeiriaid a anfonasant swyddogion i’w ddal ef.

7:33 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyda chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd.

7:34 Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.

7:35 Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysg eu hunain, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dysgu’r Groegiaid?

7:36 Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod?

7:37 Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed.