Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1008

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7:38 Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef.

7:39 (A hyn a dywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)

7:40 Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wir hwn yw’r Proffwyd.

7:41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Crist. Eraill a ddywedasant, Ai o Galilea y daw Crist?

7:42 Oni ddywedodd yr ysgrythur, Mai o had Dafydd, ac o Fethlehem, y dref lle y bu Dafydd, y mae Crist yn dyfod?

7:43 Felly yr aeth ymrafael ymysg y bobl o’i blegid ef.

7:44 A rhai ohonynt a fynasent ei ddal ef; ond ni osododd neb ddwylo arno.

7:45 Yna y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Phariseaid; a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddysgasoch chwi ef?

7:46 A’r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn.

7:47 Yna y Phariseaid a atebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?

7:48 A gredodd neb o’r penaethiaid ynddo ef, neu o’r Phariseaid?

7:49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melltigedig ydynt.

7:50 Nicodemus (yr hwn a ddaethai at yr Iesu o hyd nos, ac oedd un ohonynt) a ddywedodd wrthynt,

7:51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dyn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod beth a wnaeth ef?

7:52 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt tithau o Galilea? Chwilia a gwêl, na chododd proffwyd o Galilea.

7:53 A phob un a aeth i’w dŷ ei hun;


PENNOD 8

8:1 A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd:

8:2 Ac a ddaeth drachefn y y bore i’r deml, a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt.

8:3 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol.

8:4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.

8:5 A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?

8:6 A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed.

8:7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi.

8:8 Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear.

8:9 Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd en hargyhoeddi gan en cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol.

8:10 A’r Iesu wedi ymunioni, ac he weled neb ond y wraig, a ddywedod wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di?

8:11 Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.

8:12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd.

8:13 Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dysystiolaeth di wir.

8:14 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: Oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le