Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1009

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned.

8:15 Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb.

8:16 Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i.

8:17 Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn.

8:18 Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi.

8:19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.

8:20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto.

8:21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.

8:22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.

8:23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn.

8:24 Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.

8:25 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad.

8:26 Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd.

8:27 Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.

8:28 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd, fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.

8:29 A’r hwn i’m hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef.

8:30 Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.

8:31 Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn.fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir;

8:32 A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.

8:33 Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?

8:34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod.

8:35 Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth.

8:36 Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.

8:37 Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.

8:38 Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau.

8:39 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech.

8:40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn, a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.

8:41 Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw.

8:42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth