Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1011

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

9:10 Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?

9:11 Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.

9:12 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.

9:13 Hwythau a’i dygasant ef, at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall.

9:14 A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef.

9:15 Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.

9:16 Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.

9:17 Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe.

9:18 Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai. dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg.

9:19 A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?

9:20 Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasmt, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef:

9:21 Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun.

9:22 Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog.

9:23 Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef.

9:24 Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn

9:25 Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd. Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yt wyf fi yn awr yn gweled.

9:26 Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?

9:27 Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch: paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef?

9:28 Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni.

9:29 Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe.

9:30 Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.

9:31 Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.

9:32 Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.

9:33 Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim.

9:34 Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i bwriasant ef allan.

9:35 Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?

9:36 Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo?

9:37 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe.

9:38 Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi