Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1012

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.

9:39 A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn, fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion.

9:40 A rhai o’r Pharaseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion?

9:41 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.


PENNOD 10

10:1 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidwr ac ysbeiliwr yw.

10:2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw.

10:3 I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid. yn gwrando ar ei llais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain. hwy allan.

10:4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.

10:5 Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.

10:6 Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.

10:7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.

10:8 Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.

10:9 Myfi yw’r drwsi: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.

10:10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.

10:11 Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.

10:12 Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid.

10:13 Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid. mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.

10:14 Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi.

10:15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.

10:16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.

10:17 Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn.

10:18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.

10:19 Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.

10:20 A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?

10:21 Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?

10:22 Ac yr oedd y gysegr-ŵyl yn Jerwsalem, a’r gaeaf oedd hi.

10:23 Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.

10:24 Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw’r Crist, dywed i ni yn eglur.

10:25 Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi