yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
10:26 Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.
10:27 Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i:
10:28 A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.
10:29 Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
10:30 Myfi a’r Tad un ydym.
10:31 Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef.
10:32 Yr Iesu a atebodd iddynt, llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
10:33 Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
10:34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
10:35 Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
10:36 A ddywedwch chwi am yr hwn a saacteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, yr wyt ti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?
10:37 Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi:
10:38 Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.
10:39 Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt.
10:40 Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
10:41 A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr hofl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
10:42 A llawer yno a gredasant ynddo.
PENNOD 11
11:1 Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha.
11:2 (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.)
11:3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.
11:4 A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.
11:5 A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus.
11:6 Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
11:7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn.
11:8 Y disgyblion a ddywedant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
11:9 Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn:
11:10 Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.
11:11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny, efe a ddywedodd wrthynt, y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef.
11:12 Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.
11:13 Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.
11:14 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus.
11:15 Ac y mae’n llawen gennyf nad