Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1014

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef.

11:16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.

11:17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.

11:18 A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi:

11:19 A llawer o’r Iddewon a ddaethent at Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd.

11:20 Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.

11:21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwyd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.

11:22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.

11:23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn.

11:24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf.

11:25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:

11:26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn?

11:27 Dywedodd hithau wrtho, ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd.

11:28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.

11:29 Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.

11:30 (A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man efe y cyfarfuasai Martha ag ef.)

11:31 Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno.

11:32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.

11:33 Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd;

11:34 Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.

11:35 Yr Iesu a wylodd.

11:36 Am hynny dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.

11:37 Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?

11:38 Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.

11:39 Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.

11:40 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?

11:41 Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.

11:42 Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i.

11:43 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan.

11:44 A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.

11:45 Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.

11:46 Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.

11:47 Yna yr arch-offeiriaid a’r