Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1015

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Phariseaid a gasglasant gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.

11:48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw y Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd.

11:49 A rhyw un o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd arch-offeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim oll,

11:50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.

11:51 Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun: eithr, ac efe yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddai yr Iesu farw dros y genedl;

11:52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.

11:53 Yna o’r dydd hwnnw allan, y cydymgyngorasant fel y lladdent ef.

11:54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysg yr Iuddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac a arhosodd yno gyd â’i ddisgyblion.

11:55 A phasc yr Iuddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fynu i Jerwsalem o flaen y pasc, i’w glanhâu eu hunain.

11:56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r wyl?

11:57 A’r arch-offeiriaid a’r Phariseaid a roisant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.


PENNOD 12

12:1 Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw.

12:2 Ac yno y gwnaethant iddo swpper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lazarus oedd un o’r rhai a eisteddent gyd âg ef.

12:3 Yna y cymmerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a enneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.

12:4 Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Judas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef,

12:5 Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chàn ceiniog, a’i roddi i’r tlodion?

12:6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o herwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo y pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.

12:7 A’r Iesu a ddywedodd, Gâd iddiǃ erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.

12:8 Canys y mae gennych y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid oes gennych bob amser.

12:9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iuddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw.

12:10 Eithr yr archoffeiriaid a ymgynghorasant fel y lladdent Lazarus hefyd:

12:11 Oblegid llawer o’r Iuddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.

12:12 Trannoeth, tyrfa fawr yr hon a ddaethai i’r wyl, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Jerusalem,

12:13 A gymerasant gangau o’r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenhin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

12:14 A’r Iesu wedi cael asyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig,

12:15 Nac ofna, ferch Sïon: wele, y mae dy Frenhin yn dyfod, yn eistedd er ebol asyn.

12:16 Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.