Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1016

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

12:17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gydag ef pan alwodd efe Lasarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw.

12:18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed ohonynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.

12:19 Y Phariseaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tycio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

12:20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a ddaethent i fyny i addoli ar yr ŵyl:

12:21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Fethsaida yng Ngalilea, ac a ddymunasant arno, tan ddywedyd, Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.

12:22 Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas; a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu.

12:23 A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.

12:24 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr us bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.

12:25 Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casa’u ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragwyddol.

12:26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi y Tad a’i hanrhydedda ef.

12:27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: eithr oherwydd hyn y deuthum i’r awr hon.

12:28 O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn.

12:29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.

12:30 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu’r llef hon, ond o’ch achos chwi.

12:31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.

12:32 A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.

12:33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.)

12:34 Y dyrfa a atebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Crist yn aros yn dragwyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw hwnnw Mab y dyn?

12:35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ennyd y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le y mae’n myned.

12:36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.

12:37 Ac er gwneuthur ohono ef gymaint o arwyddion yn en gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo:

12:38 Fel y cyflawnid ymadrodd Eseias y proffwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?

12:39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Eseias drachefn,

12:40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.

12:41 Y pethau hyn a ddywedodd Eseias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd amdano ef.

12:42 Er hynny llawer o’r penaethiaid hefyd a gredasant ynddo; ond oblegid y Phariseaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog:

12:43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw.

12:44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn, yr hwn a’m hanfonodd i.

12:45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i.

12:46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.

12:47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu