Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/1020

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

15:11 Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn.

15:12 Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.

15:13 Cariad mwy na hwn nid oes gan neb; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.

15:14 Chwychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.

15:15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegid y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegid pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hysbysais i chwi.

15:16 Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

15:17 Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd.

15:18 Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi.

15:19 Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi.

15:20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.

15:21 Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i.

15:22 Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod.

15:23 Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.

15:24 Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac am casasant i a’m Tad hefyd.

15:25 Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos.

15:26 Eithr pan ddel y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad, (sef Ysbryd y gwirionedd, yr hwn, sydd yn deillio oddi wrth y Tad,) efe a dystiolaetha amdanaf fi.

15:27 A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.


PENNOD 16

16:1 Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi.

16:2 Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.

16:3 A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi.

16:4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi.

16:5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned?

16:6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.

16:7 Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch.

16:8 A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:

16:9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi:

16:10 0 gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach;

16:11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.

16:12 Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.

16:13 Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.