16:14 Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.
16:15 Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
16:16 Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad.
16:17 Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?
16:18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.
16:19 Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch?
16:20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
16:21 Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd.
16:22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
16:23 A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi.
16:24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
16:25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynega i chwi yn eglur am y Tad.
16:26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch:
16:27 Canys y Tad eu hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.
16:28 Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad.
16:29 Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg.
16:30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw.
16:31 Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?
16:32 Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi.
16:33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
PENNOD 17
17:1 Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau:
17:2 Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol.
17:3 A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
17:4 Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur.
17:5 Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.
17:6 Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhodd-